Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol 
  
 
  

 

 


Cofnodion cyfarfod:

Teitl y Grŵp Trawsbleidiol:

Grŵp Trawsbleidiol ar Heddwch a Chymod

 

Dyddiad y cyfarfod:

20 Tachwedd 2023

Lleoliad:

Zoom

 

Yn bresennol:

Enw:

Enw:

 Mabon ap Gwynfor (Cadeirydd)

 

Sion Edwards (Cyfieithydd)

 Sam Bannon

 Jill Evans

 

 Mererid Hopwood

 Awel Irene

 

 Richard Outram

 Sam Swash

 

 Brian Jones

 Gethin Rhys

 

Ed Bridges

 

Bethan Sian Jones

 

Ymddiheuriadau:

Enw:

 Hayley Richards (Ysgrifennydd)

 

 

 

 

Crynodeb o'r cyfarfod:

Croeso, Cofnodion, materion sy’n codi            

Nid yw'r cyfarfod hwn yn CCB fel y bwriadwyd, gan nad oes cynrychiolaeth o'r Blaid Geidwadol.

GWEITHREDU - Mae cyfarfod gwleidyddol brys i'w drefnu er mwyn sicrhau cynrychiolaeth drawsbleidiol.

 

Cyflwyniad Heddwch ar Waith gan ei gydlynydd, Sam Bannon

Amlinellodd SB ddiben Heddwch ar Waith (HaW) sef ei fod yn rhwydwaith lobïo Cymru gyfan, gyda’i wreiddiau yn CND Cymru a Chymdeithas y Cymod, i gynyddu'r gallu ar gyfer ymgyrchu heddwch a chyfiawnder.

Darparodd ganllaw cam-wrth-gam i bedair prif thema Heddwch ar Waith, sef:

- Mapio graddau militariaeth yng Nghymru a dwyn y wybodaeth hon i sylw pobl Cymru

- Sicrhau bod yr wybodaeth hon yn cael ei deall ymhlith aelodau etholedig ac yn arbennig pobl iau er mwyn cefnogi eu cyfranogiad gweithredol fel 'Gwneuthurwyr Heddwch Ifanc'

- Adeiladu a rheoli rhwydwaith lobïo a fydd yn creu cefnogaeth, ar lefel awdurdod lleol, Senedd a San Steffan, i'r rhaglen Heddwch ar Waith / Peace Action Wales.

- Gweithio tuag at weld Cymru yn dod yn Genedl dros Heddwch, gydag addasu Llysgenhadon Heddwch o fewn awdurdodau lleol i wrthweithio rhaglen bresennol Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog

Mae’r gweithgorau hyn i’w sefydlu mewn cyfarfod ar-lein ar 30 Tachwedd 2023.

Mewn 16 mis, y gobaith yw y bydd trafodaethau o fewn y Senedd wedi dechrau ar yr hyn y mae’n ei olygu i Gymru ddod yn Genedl Heddwch.

 

Trafodaeth

 

- Pencampwyr Heddwch:

Pencampwr Heddwch wedi’i sefydlu yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, potensial ar gyfer rhai pellach yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Ynys Môn. Potensial ar gyfer Cyngor Sir y Fflint hefyd. Gwaith i SB ddilyn i fyny.

GWEITHREDU – Ar ôl y Nadolig, y Grŵp Trawsbleidiol i anfon llythyrau at gynghorau sir eraill yn eu hysbysu o ddatblygiadau Pencampwyr Heddwch mewn cynghorau sir eraill.

 

- Map rhyngweithiol Heddwch ar Waith, yn olrhain graddau militariaeth yng Nghymru

Trafod sut y gall y Grŵp Trawsbleidiol ychwanegu at y map.

Gofynnodd SB am wybodaeth ar dir sy’n perthyn i’r llywodraeth, i bwy mae’r tir wedi ei osod, yn ogystal â gweithgareddau ar y tir hwnnw. Yn ôl MaG, mae Julie James wedi coladu rhestr o ddolenni i wefannau gyda gwybodaeth am berchnogaeth tir yng Nghymru. 

 

- Trafodaeth gyffredinol ar Heddwch ar Waith

Holodd MH beth oedd y ffordd orau o osgoi dyblygu ymchwil sylfaenol Academi Heddwch. Cymru fel Cenedl Heddwch. Rhoddodd BSJ ddiweddariad ar yr ymchwil. Cynghorwyd y gweithgor HaW i ddarllen yr adroddiad ar ôl ei gyhoeddi.

Darparodd AI fwy o wybodaeth o ran cefndir ariannu HaW (Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree) a phwysleisiodd yr angen i ymchwilio i ffynonellau arian eraill i sicrhau ei gynaliadwyedd.

Diolchodd JE i AI am ei gweledigaeth a'i gwaith y tu ôl i sefydlu HaW. Pwysleisiodd bwysigrwydd HaW fel gofod rhannu i bawb yn y mudiad heddwch godi proffil y mudiad, gan ei fod hefyd yn adnodd canolog i gydlynu gweithgareddau ar thema heddwch.

 

- Sut i hyrwyddo Heddwch ar Waith yn y Senedd

Awgrymodd SB y dylai'r Grŵp Trawsbleidiol ailddosbarthu deunyddiau wrth HaW yn ogystal â rhannu deisebau. Gan edrych i’r dyfodol, pwysleisiodd y bydd grwpiau penodol yn cael eu ffurfio o amgylch lobïo a fydd yn annog yr agenda HaW ar lefel y Senedd.

 

- Ffynonellau a all fod o fudd i SB a Heddwch ar Waith

GWEITHREDU – SS i rannu rhestr e-bost o bob cynghorydd yng Nghymru gyda SB.

GWEITHREDU – EB i roi SB mewn cysylltiad â phodlediad Hiraeth fel ffynhonnell, gan y gallent fynegu diddordeb.

GWEITHREDU – Mae aelodau'r Grŵp Trawsbleidiol yn cynrychioli amrywiaeth o grwpiau yng Nghymru. SB i anfon gwybodaeth HaW at gynrychiolwyr y Grŵp Trawsbleidiol fel y gellir anfon gwybodaeth drwy eu rhestrau postio priodol.

 

Unrhyw fater arall

- Annogwyd y Grŵp Trawsbleidiol i rannu deiseb ar-lein sy'n galw am ddarparu cymorth dyngarol i Gaza. Mae ganddo 1,700 o lofnodion hyd yn hyn, ond mae angen 10,000 o lofnodion arno er mwyn iddo gael ei ystyried ar gyfer dadl yn y Senedd. Linc i’r ddeiseb: https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/244780

- Mae Jill Gogh wedi bod yn casglu rhestr o ddigwyddiadau sy'n hyrwyddo heddwch ac yn annog cadoediad.  

 

- Mae JE yn cofio 10 mlynedd yn ôl, yr Eglwys yng Nghymru yn ariannu clinig deintyddol symudol yn Gaza. Gwelodd hi pan ymwelodd â Gaza, ac roedd baner Cymru arni. Gofynnodd beth oedd wedi digwydd i'r clinig deintyddol.

- Yn ôl GR, cafodd y clinig deintyddol ei fomio ac ni wnaeth yr Eglwys yng Nghymru byth adfer y prosiect: https://www.anglicannews.org/news/2017/06/church-funding-ends-for-gaza-mobile-dental-clinic.aspx

- Hefyd 10 mlynedd yn ôl, mae JE yn cofio ysgrifennu at Edwina Hart am y posibilrwydd i Gymru fynd â phlant o Gaza er mwyn iddyn nhw gael triniaeth am anafiadau yng Nghymru. Cytunodd Hart i'r syniad, ond mae JE yn ansicr a ddaeth unrhyw beth pellach ohono. GWEITHREDU – MaG i ysgrifennu fel Grŵp Trawsbleidiol i weld a yw hyn yn dal yn bosibilrwydd.

 

- Bomio Ysbyty Al-Ahli, Gaza. GWEITHREDU - MaG i gysylltu â'r Eglwys yng Nghymru i weld beth yw eu safbwynt ar hyn.

 

Dyddiad a phwnc y cyfarfod nesaf

 

Cyfarfod brys i sicrhau parhad y Grŵp Trawsbleidiol. Aelodau'r Senedd yn unig.